Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod yr holl gynghorau yn sefydlu partneriaethau rhanbarthol a chytuno ar flaenoriaethau rhanbarthol strategol ym mhob rhan o’r sector gofal cymdeithasol. Mae hyn er mwyn sicrhau’r gwaith o alinio strategaeth gweithlu rhanbarthol yn sgil gweithredu Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Mae gan Gyfarwyddiaethau Gwasanaethau Cymdeithasol Caerdydd a Bro Morgannwg hanes o gydweithio i reoli, llunio a darparu gwasanaethau o safon sy’n diwallu anghenion y poblogaethau lleol. Mae Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol y ddau gyngor wedi ymrwymo o ran egwyddor i sefydlu Uned Hyfforddi Datblygu Gweithlu Rhanbarthol cynaliadwy.
Ein prif amcanion fel partneriaeth yw:
Mae pobl yn ystod gwahanol gyfnodau o’u bywydau, gan gynnwys y rheiny sy’n nesáu at ddiwedd eu hoes, yn defnyddio gwahanol fathau o wasanaethau gofal.
Mae rhai pethau sylfaenol y mae’n rhaid i wasanaethau a darparwyr gwasanaethau eu gwneud yn dda os ydynt am ddarparu gwasanaethau gofal o safon ledled rhanbarth Caerdydd a’r Fro.
Mae’n rhaid i wasanaeth gofal a chymorth o safon uchel gynnwys yr elfennau craidd canlynol:
Ni ellir barnu bod gwasanaeth yn wasanaeth da oherwydd ei fod yn ddiogel, os yw ei effeithiolrwydd neu brofiadau pobl yn cael eu hanwybyddu.
Mae llawer o heriau ynghlwm wrth sicrhau y cynigir gwasanaethau o safon dda yn gyson ac o ran sicrhau canlyniadau da i deuluoedd a thrigolion.
Mae Partneriaeth Gweithlu Gofal a Chymorth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro wedi ymrwymo i sicrhau’r gwaith o recriwtio a chadw staff proffesiynol ardderchog ac amgylchedd gwaith sy’n galluogi staff i ddatblygu a rhoi o’u gorau.
Mae aelodau’r bwrdd partneriaeth yn cynrychioli’r sefydliadau / asiantaethau canlynol: