Mae’n ddrwg gen i am hyd hwn, ond yn y byd go iawn rydym yn clywed yr un hen straeon gan rieni a gofalwyr sydd wedi cyrraedd pen eu tennyn heb unrhyw le i fynd a heb unrhyw un i siarad â nhw. Gall ein sefydliad ni a rhai eraill cyffelyb wrando, cynnig ffynonellau cymorth eraill a ‘llywio’ gofalwyr i lefydd priodol ond mae llawer iawn yn dal i fyw ‘yn y dirgel’ – yn byw bywyd ynysig ac yn aml yn anwybodus o’r cymorth y gallent ofyn amdano.
Gwybodaeth yw’r peth cyntaf mae gofalwyr yn sôn amdano, nid yn unig geiriau ar dudalen ond yr hyn mae pobl eraill wedi’i ystyried yn dda ac yn ymddiried ynddo.
Fy stori
Fel llawer o bobl eraill, nid oeddwn erioed yn ystyried fy hun yn ofalwr, dim ond rhiant gyda mab anabl.
Mae gen i bedwar o blant, mae pob un yn oedolyn bellach ac fel y byddai unrhyw riant yn ei ddweud, rydych yn rhiant am byth ac yn aml mae sefyllfa lle bydd dad yn gorfod cynnig ychydig o help neu gymorth – mae hynny’n arferol a ni fyddwn yn newid unrhyw beth amdano!
Mae gen i fab anabl sy’n oedolyn, ond mae’n ymdopi’n eithaf da o ddydd i ddydd ac yn gofyn am gymorth pan mae’n dod ar draws rhwystr sy’n ei ddrysu neu sy’n anodd iddo. Gall hyn fod yn fil y mae’n ystyried yn uchel, pobl ffug yn galw heibio i’r tŷ, e-byst sbam y mae wedi’u derbyn, help i ddod o hyd i rywle i fyw, ei gludo i’r ysbyty, dod o hyd i bractis deintyddol ac ati. Tan i mi wirioneddol ystyried y peth, nid oeddwn wedi sylweddoli pa mor aml ac i ba raddau y mae angen fy help a pha mor bwysig yw fy rôl fel ‘gofalwr’.
Fel y rhan fwyaf o bobl anabl, mae fy mab yn dymuno cael swydd gyflogedig dros bopeth arall – mae’n gwirfoddoli pob dydd bron, wedi ennill gwobrwyon a chydnabyddiaeth yn lleol ac yn genedlaethol am ei ymdrechion ond pan mae’n dod i’r gwaith, mae’r un gwahaniaethu’n amlwg eto. Na, does ganddo ddim gradd dda mewn TGAU mathemateg, na, does ganddo ddim gradd (nid oes unrhyw un yn malio ei fod wedi gweithio’n galed mewn rolau gwirfoddol, lleoliadau profiad gwaith am gyfnodau byr ac ati)..
Heriau
Rydym yn ymdopi o ddydd i ddydd fel pobl eraill, yn darganfod pethau sydd eu hangen arnom gan ffrindiau, y rhyngrwyd a chyfryngau eraill. Roedd hyn yn gweithio’n iawn tan i ni gyrraedd y sefyllfa lle roedd budd-daliadau’n ymwneud ag anableddau’n dechrau cael eu tynnu nôl. Mae ei fudd-daliadau wedi galluogi iddo wirfoddoli a hyd yn oed weithio am gyflog o bryd i’w gilydd (sy’n amodol ar dreth ac mae’r budd-daliadau’n cael eu lleihau os yw’n gweithio digon o oriau), gyda rhwyd ddiogelwch o incwm gwarantedig pan fydd yr oriau’n lleihau neu’r gwaith yn dod i ben. Peryglwyd hyn gan ddeddfwriaeth wirion.
Ar ôl mwy na 30 mlynedd o annog ein plentyn i gredu ynddo’i hun a’i alluoedd; yn yr un modd â theuluoedd eraill ledled y wlad roedd yn rhaid i ni eirioli, ymladd a herio penderfyniadau a wnaed gan ‘arbenigwyr’ oedd heb wybodaeth ac, a dweud y gwir oedd yn eithaf anwybodus. Yn canolbwyntio ar ei anableddau – nid ei gryfderau.
Diolch byth, ar ôl cael cyngor amryw o wasanaethau, gan gynnwys arbenigwyr ar fudd-daliadau a hyd yn oed cael gafael ar weithiwr cymdeithasol i ‘asesu’ ei anghenion – (y cyswllt ffurfiol cyntaf gyda’r gwasanaethau cymdeithasol ers 30 mlynedd); cawsom lwyddiant o’r diwedd!
Cafodd asesiad a nododd fod anabledd dysgu gyda lefel angen cymedrol ganddo – (dim digon i dderbyn cymorth nawr ond pan fydd yn symud i’w gartref ei hun, dylai dderbyn ychydig oriau bob dydd). Roedd hyn, ynghyd â thystiolaeth arall, yn ddigon i’r biwrocratiaid adsefydlu ei annibyniaeth. Roedd yn lwcus, nid oes gan bob gofalwr yr hyder na’r cysylltiadau i fynd ar ôl gwybodaeth o’r fath. Petai wedi bod yn aflwyddiannus yn ei apêl, ni, y gofalwyr, fyddai wedi gorfod bod yno i’w gefnogi.
Mae drychiolaeth Credydau Cynhwysol ar ein gwarthaf, a phwy a ŵyr beth fydd hynny’n ei olygu? Mae’n siŵr mai mwy o amser i mam a dad ddweud yr amlwg, herio penderfyniadau, mynd ar ôl adroddiadau a chasglu tystiolaeth, profi ei fod e dal yn anabl (a’i fod am fod yn anabl am byth). Gydol yr adeg yn ei annog yn ddi-dor, gan ganolbwyntio ar yr hyn mae’n gallu ei wneud ac yn ei helpu i ffynnu.
Y dyfodol?
Mae gofalwyr gydol oes pobl ag anableddau dysgu yn chwarae rôl hanfodol ym mywyd eu ‘plentyn’ sy’n parhau drwy bob agwedd ar fywyd o eni’r plentyn a than na fydd modd gofalu mwyach.
Mae angen cyfleoedd i ddysgu am y cymorth sydd ar gael i fod ar gael ‘yn syth’ pan ac ar gyflymder sy’n addas i anghenion y gofalwr. Er bod cyrsiau a digwyddiadau gwybodaeth yn ffyrdd da iawn o godi ymwybyddiaeth, mae angen rhestr o adnoddau hyfforddiant neu wybodaeth y mae modd cael mynediad parhaus atynt. Efallai y bydd rhiant rhywun yn ei ugeiniau yn ystyried cyflogaeth a symud ymlaen yn flaenoriaeth, ond efallai y bydd gan riant rhywun yn ei bumdegau anghenion dysgu gwahanol iawn – y ddelfryd fyddai cael rhestr y mae modd cael mynediad ati’n hawdd ac mewn modd sy’n siwtio amrywiaeth o ofalwyr.
I rai gofalwyr, bydd hyn hefyd yn ffordd iddyn nhw gael hyfforddiant achrededig y gallent ei ddefnyddio i wella eu datblygiad personol a’u cyfleoedd cyflogaeth, gan alluogi ni i ddefnyddio’r adnodd unigryw ac ysgogol hwn mewn cyfnod pan mae recriwtio a chadw staff gofal addas a chymwys yn mynd yn anos!