English

Deddfwriaeth

Mae’n ymwneud â llesiant

Mae tair deddfwriaeth newydd wedi’u creu yng Nghymru ac i Gymru ac maent oll yn gysylltiedig â’i gilydd.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn ddeddfwriaeth bwysig i ofal cymdeithasol yng Nghymru fydd â goblygiadau i’ch gwaith chi fel gweithiwr gofal cymdeithasol, gweithiwr proffesiynol iechyd, gweithiwr cymorth neu weithiwr y sector gwirfoddol. Daeth yn gyfraith yn 2014 ac i rym fis Ebrill 2016. Mae’n moderneiddio ac yn dod â gwahanol ddarnau o’r gyfraith gofal cymdeithasol ynghyd.

Mae’r fframwaith cyfreithiol newydd yn cynnwys tair elfen – y Ddeddf ei hun, sydd eisoes ar waith; y Rheoliadau, sy’n rhoi mwy o fanylion ynghylch gofynion y Ddeddf; a’r Codau Ymarfer, sy’n cynnwys canllawiau ymarferol ynghylch sut y dylid ei weithredu. Mae’r Ddeddf yn cynnwys oedolion (pobl dros 18 oed), plant (pobl dan 18 oed) a gofalwyr (oedolion neu blant sy’n cynnig neu sy’n bwriadu cynnig gofal a chymorth).

 

Mae’r Ddeddf yn seiliedig ar yr egwyddorion craidd canlynol:

  • Llais a rheolaeth – rhoi unigolyn a’i anghenion wrth galon ei ofal a chymorth, gyda llais a rheolaeth dros y canlyniadau a fydd yn ei helpu i gyflawni llesiant
  • Atal ac ymyrraeth gynnar – gallu cael mynediad at gyngor a chymorth yn fuan, er mwyn cynnal ansawdd byw da, a lleihau neu atal yr angen am ofal a chymorth dros gyfnod hir
  • Llesiant – cefnogi unigolion i gyflawni llesiant ym mhob rhan o’u bywydau
  • Cyd-gynhyrchu – sicrhau bod pobl ynghlwm wrth ddylunio a darparu cymorth a gwasanaethau, a chydnabod y wybodaeth a’r arbenigedd y gallent eu defnyddio
  • Aml-asiantaethol – mae gweithio partneriaeth da rhwng yr holl asiantau a sefydliadau yn hanfodol er mwyn gwella llesiant unigolion sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth

 

Mae gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 oblygiadau mawr o ran y ffordd y caiff gwasanaethau cymdeithasol eu cynnig yng Nghymru.

Mae ystod o ddeunyddiau dysgu yn cael eu datblygu er mwyn cefnogi gweithrediad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), ac mae’r Cyngor Gofal a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau bod deunyddiau cymeradwy ar gael drwy’r Hyb Gwybodaeth a Dysgu.

Mae adnoddau wedi’u targedu’n benodol ar gyfer y rheiny sydd ynghlwm wrth ddarparu gofal a chymorth, ac yn ffocysu ar y pum prif egwyddor sy’n llywio’r Ddeddf. Eu nod yw cynnig enghreifftiau ymarferol a fydd yn eich helpu i ddeall sut mae modd gweithredu’r newidiadau wrth eich gwaith.

 

Beth mae’r Ddeddf yn ei olygu i mi?

Egwyddorion y ddeddf

Trosolwg ac Ymwybyddiaeth

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn cynnig fframwaith diwygiedig a syml ar gyfer rheoleiddio ac archwilio gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n ymgorffori nodau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Mae’r Ddeddf yn cael ei chyflwyno er mwyn gwella ansawdd gofal a chymorth yng Nghymru.
Bydd yn gwneud hyn drwy:

  • gryfhau prosesau amddiffyn
  • cynyddu atebolrwydd
  • rhoi llais cryfach i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth.

 

Mae 5 egwyddor sy’n llywio’r system rheoleiddio ac archwilio newydd:

  • Adlewyrchu’r newidiadau a grëwyd gan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
  • Rhoi pobl wrth galon eu gofal a’u cymorth
  • Datblygu dull cydlynol a chyson yng Nghymru
  • Taclo methiannau darparwyr
  • Ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i fodelau gwasanaeth newydd ac unrhyw bryderon ynghylch ansawdd gofal a chymorth

 

Mwy o wybodaeth:

https://gofalcymdeithasol.cymru/

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Bydd yn gwneud i’r cyrff cyhoeddus a nodir yn y Ddeddf feddwl am y tymor hir, gweithio gyda phobl a chymunedau a’i gilydd, ceisio atal problemau a mabwysiadu ymagwedd fwy cydlynol. Bydd hyn yn ein helpu i greu Cymru yr ydym oll eisiau byw ynddi, nawr ac yn y dyfodol.

 

Pam fod angen hyn arnom ni?

Mae Cymru’n wynebu sawl her nawr ac yn y dyfodol, megis newid yn yr hinsawdd, tlodi, anghydraddoldebau o ran iechyd a chyflogaeth a thwf. Er mwyn mynd i’r afael â’r rhain, mae angen i ni oll gydweithio. Er mwyn rhoi ansawdd bywyd da i genedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol, mae angen i ni feddwl am effaith ein penderfyniadau yn y tymor hir. Bydd y ddeddf hon yn sicrhau bod ein sector cyhoeddus yn gwneud hyn.

 

Er mwyn sicrhau ein bod oll yn gweithio tuag at yr un weledigaeth, mae’r Ddeddf yn gosod saith targed llesiant:

 

  • Cymru sy’n ffynnu

Cymdeithas arloesol, cynhyrchiol a charbon isel sy’n cydnabod cyfyngiadau’r amgylchedd rhyngwladol ac sydd felly’n defnyddio adnoddau’n effeithiol ac yn gyfrannol (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth sgilgar wedi ei haddysgu’n dda mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac sy’n cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan alluogi mwy o bobl i fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy greu cyflogaeth o safon.

  • Cymru wydn

Cenedl sy’n cynnal ac sy’n gwella amgylchedd bioamrywiol naturiol gydag ecosystemau iachus sy’n cefnogi gwytnwch cymdeithasol, economaidd ac ecolegol a’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).

  • Cymru iachach

Cymdeithas sy’n gwneud y mwyaf o lesiant corfforol a meddyliol pobl a chymdeithas sy’n deall dewisiadau ac ymddygiadau sy’n fuddiol i iechyd y dyfodol.

  • Cymru fwy cyfartal

Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial waeth beth fo’u cefndir neu amgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol).

  • Cymru â chymunedau cydlynol

Cymunedau deniadol, hyfyw, diogel sydd wedi’u cysylltu’n dda.

  • Cymru â diwylliant bywiog a’r iaith Gymraeg yn ffynnu

Cymdeithas sy’n hyrwyddo a diogelu diwylliant, etifeddiaeth a’r iaith Gymraeg, ac sy’n annog pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau, chwaraeon a hamdden.

  • Cymru sy’n rhyngwladol gyfrifol

Cenedl sydd, wrth wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, sy’n ystyried a fyddai gwneud rhywbeth o’r fath yn gwneud cyfraniad positif i lesiant rhyngwladol.

 

Mwy o wybodaeth:

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Darllenwch y llyfryn – ‘Yr hanfodion’

Edrychwch ar y wybodaeth ar gov.cymru

© Regional Workforce Partnership - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd